Gorgias | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 483 CC, 485 CC ![]() Lentini ![]() |
Bu farw | c. 375 CC ![]() Lárisa ![]() |
Galwedigaeth | sophist ![]() |
Mudiad | sophism, athroniaeth cyn-Socratig, sophist ![]() |
Athronydd, gwleidydd, a rhethregwr Groegaidd hynafol oedd Gorgias (tua 483 – 375 CC) a oedd yn un o do cyntaf y Soffyddion.[1] Edrychid arno fel un o'r dysgedigion galluocaf yn perthyn i'r oes yr oedd llenyddiaeth Groeg yn ei gogoniant pennaf.[2]
Ganed yn Leontini, Sisili. Cyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl Ar Bwnc Natur neu'r Anfodol, yn yr hwn yr amcanai ddangos yn:
Yn ganlynol i gyhoeddiad y llyfr uchod, troes Gorgias ei feddwl yn gwbl oll i astudio areitheg, ac yn hyn enillodd anrhydedd mawr. Meddai Cicero taw Gorgias oedd y cyntaf i draddodi anerchiadau cyhoeddus yn ddifyfyr, ar unrhyw destun. Roedd ei arddangosiadau o'r ddawn areithyddol, pa fodd bynnag, yn fwy nodedig am goethder ac addurniant barddonol yr iaith, a ffurfiad destlus y brawddegau, nag am ddyfnder a bywiogrwydd meddwl; ac fe ddaeth oeredd ei huodledd yn fuan i fod yn ddihareb ymhlith trigolion yr hen oesoedd. Mae ei enw wedi ei anfarwoli i raddau pell trwy iddo gael ei gysylltu ag un o ymddiddanion Platon. Dyrchafwyd cerflun o aer mewn lle amlwg yn Delphi i fod megis yn gofadail am ei goffadwriaeth. Yn ôl y traddodiad, bu fyw am 105 o flynyddoedd neu fwy.